Strategaethau Adolygu


Mae pawb yn wahanol ac mae angen i bob unigolyn ddod o hyd i’r technegau adolygu sy’n gweithio orau iddyn nhw. Er hynny, mae rhai canllawiau cyffredinol ar gyfer adolygu effeithiol a gall pob un ohonom ddysgu sut i wneud y mwyaf o’r amser a roddir i baratoi ar gyfer yr arholiadau. Cymerwch gip ar y fideos hyn sy’n cynnig tips ac arweiniad i’ch rhoi ar ben ffordd ac i ddod o hyd i’r technegau sy’n gweithio orau i chi.